Cynlluniau Corfforaethol a Chyfrifon Adnoddau
Mae Estyn yn llunio cynllun corfforaethol tair blynedd treigl bob blwyddyn ariannol sy'n nodi ei gyfraniad tuag at wella addysg a hyfforddiant yng Nghymru. Llunnir y cynllun yn unol ag Adran 87 Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Gallwch gael mynediad i'r cynllun diweddaraf o'r dudalen hon.
Mae gofyn i Estyn hefyd lunio datganiadau ariannol yn unol ag Atodlen 6(5) Deddf Llywodraeth Cymru 1998 ac yn unol â Chyfarwyddyd Cyfrifon a gyhoeddir gan Drysorlys EM. Mae copi o'r Cyfarwyddyd Cyfrifon ar gael yn Swyddfa Estyn yng Nghaerdydd. Gellir gweld Datganiad Cyfrifon Adnoddau diweddaraf Estyn ar y dudalen hon.
Gyda'i gilydd, mae'r Cynllun Corfforaethol a'r Datganiad Cyfrifon Adnoddau perthnasol ar gyfer unrhyw flwyddyn benodol yn rhoi cofnod o weithgareddau Estyn a'r adnoddau a ddefnyddiwyd i ymgymryd â'r gweithgareddau hynny yn y cyfnod hwnnw.
O 2005, bydd Estyn hefyd yn llunio Adroddiad Blynyddol y Bwrdd bob blwyddyn, yn disgrifio'r gwaith a wnaed yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, gan ddod i ben ym mis Mawrth.
Bydd y dogfennau hyn yn ymddangos ar y dudalen hon wrth iddynt ddod ar gael.
Mae angen Adobe Acrobat arnoch i weld ein cyhoeddiadau. Os nad oes gennych y feddalwedd hon, cliciwch ar yr eicon isod i'w llwytho i lawr o wefan Adobe.

I'r rhai sydd â nam ar eu golwg, gellir dadlwytho meddalwedd
Adobe, yn rhad ac am ddim o wefan Adobe er mwyn trosi ffeiliau
PDF yn HTML neu destun ASCII y gellir eu defnyddio gan raglenni
darllen sgrîn,
cliciwch yma.
|