Dysgu Oedolian yn y Gymuned
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o bartneriaethau neu ddarparwyr unigol dysgu oedolion yn y gymuned er mwyn cyflawni’r dyletswyddau cyfreithiol a aseiniwyd i’r Prif Arolygydd. Mae Adran 75 y Ddeddf Dysgu a Sgiliau (2000) yn cyflwyno cylch gwaith Estyn i arolygu addysg a hyfforddiant ôl-16 sy’n cael ei ariannu gan ELWa (APADGOS bellach) neu awdurdod addysg lleol (AALl). Mae Adran 76 y Ddeddf yn cyflwyno dyletswydd y Prif Arolygydd i roi gwybod i Lywodraeth Cynulliad Cymru am ansawdd y ddarpariaeth, y safonau a gyflawnir, ac a yw’r adnoddau ariannol sy’n cael eu rhoi i ddarparwyr addysg a hyfforddiant yn cael eu rheoli’n effeithlon ac mewn ffordd sy’n cynnig gwerth am arian. Mae ein gwaith arolygu hefyd yn ystyried deddfwriaeth sy’n llywodraethu Estyn a darparwyr addysg eu hunain, gan gynnwys er enghraifft, Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.
Arolygwyr Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru ac arolygwyr ychwanegol (AY) sy’n cynnal arolygiadau. Gall arolygwyr gael eu cynorthwyo gan bobl eraill, fel aseswyr cymheiriaid (p’un a ydynt yn aelodau o staff y Prif Arolygydd ai peidio), fel y mae’r Prif Arolygydd yn ei ystyried yn briodol.
Wrth gynnal arolygiadau, mae arolygwyr yn gweithredu yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau a roddir o bryd i’w gilydd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Bydd y Fframwaith Arolygu Cyffredin yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y cylch arolygu ar gyfer dysgu oedolion yn y gymuned o 2004 i 2010.