Addysg bellach


Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o sefydliadau addysg bellach sy’n cael eu hariannu gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn ôl telerau Deddf Dysgu a Sgiliau 2000.

Mae arolygwyr EM dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru a/neu arolygwyr ychwanegol yn cynnal arolygiadau o sefydliadau addysg bellach. Maent yn gweithio’n agos gydag aseswyr cymheiriaid o sefydliadau addysg bellach eraill yng Nghymru, sy’n chwarae rhan lawn yn y broses arolygu. Bydd enwebai o’r sefydliad hefyd yn aelod o’r tîm arolygu.

Ers ymgorffori sefydliadau addysg bellach ym 1992, bu dau gylch arolygu pum mlynedd, cylch arolygu byr (2002-2004), a chylch chwe blynedd (2004-2010).  Mae Estyn yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y trefniadau arolygu a fydd yn cael eu cynnal o fis Medi 2010 ymlaen. 

Bydd pob coleg addysg bellach yn cael arolygiad sefydliadol yn ystod cylch arolygu, ar sail hunanasesiad y coleg o’i safonau a’i ansawdd ei hun.  Rydym yn teilwra arolygiadau ar sail amgylchiadau penodol pob sefydliad. Mae pwyslais ar nodi arfer dda ac rydym yn ystyried lefel y risg a gyflwynir gan bob sefydliad.

Mae adroddiadau arolygu colegau AB yn ymddangos ar wefan Estyn.  Oherwydd y trefniadau a oedd yn bodoli cyn rhoi Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 ar waith, mae adroddiadau a gyhoeddwyd cyn 1 Ebrill 2001 yn ymddangos ar wefan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau.

Cliciwch am: