Ysgolion annibynnol


Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o ysgolion annibynnol, gan gynnwys y rheiny sydd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer lleoli disgyblion ag anghenion addysgol arbennig (AAA), o dan Adran 163 Deddf Addysg 2002.  O dan y Ddeddf hon, gallai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn ei rôl fel yr awdurdod cofrestru ar gyfer ysgolion annibynnol yng Nghymru, ar unrhyw adeg:

  • ei gwneud yn ofynnol i’r Prif Arolygydd arolygu unrhyw ysgol gofrestredig, neu sicrhau ei bod yn cael ei harolygu gan un arolygydd arwain neu fwy; neu
  • drefnu ar gyfer arolygu unrhyw ysgol gofrestredig gan gorff sydd wedi’i gymeradwyo gan yr awdurdod cofrestru.

 

Mae Arolygwyr Ei Mawrhydi yn arolygu pob ysgol annibynnol, o leiaf unwaith bob chwe blynedd.  Dywed Adran 163 Deddf 2002 y bydd arolygu ysgol annibynnol yn ymwneud â’r canlynol:

  • y gyfryw safonau ar gyfer ysgolion annibynnol adeg yr arolygiad, sy’n cael eu nodi gan yr awdurdod cofrestru mewn perthynas ag unrhyw gategori o ysgol y mae’r ysgol honno’n perthyn iddo; neu
  • os yw’r awdurdod yn pennu, y gyfryw safonau ar gyfer ysgolion annibynnol y gallai’r awdurdod nodi mewn perthynas â’r ysgol honno.

 

Mae Adran 157 Deddf 2002 yn dweud y bydd y safonau ysgolion annibynnol yn ymwneud â’r canlynol:

a.      ansawdd yr addysg a ddarperir;
b.      datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol y disgyblion;
c.      lles, iechyd a diogelwch y disgyblion;
ch.    addasrwydd y perchnogion a’r staff;
d.      y safle a’r adeiladau;
dd.    arfer yr ysgolion wrth ddarparu gwybodaeth; a’r
e       modd y mae ysgolion yn delio â chwynion.

Mae Arolygwyr Ei Mawrhydi yn ymgymryd â’r arolygiadau hyn yn unol â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru a’r Arweiniad ar Arolygu Ysgolion Annibynnol.

Cliciwch am: