Gwasanaethau Addysg Awdurdodau Lleol (GAALlau)
Cynhelir arolygiadau o Wasanaethau Addysg Awdurdodau Addysg Lleol (GAALlau) o dan Adran 38 Deddf Addysg 1997, a Deddf Plant 2004.
Bydd Estyn yn cytuno â phob cyngor ar raglen arolygu ar gyfer pob un, neu y rhan fwyaf, o swyddogaethau addysg yr awdurdod lleol dros gyfnod o chwe blynedd yn dechrau ym mis Ebrill 2006. Mae arolygiadau awdurdodau addysg lleol Estyn yn cydymffurfio â, ac yn rhan o Raglen Cymru ar gyfer Gwella, a gyflwynwyd mewn arweiniad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2002. Mae Cylchlythyr 28/2005 yn diweddaru’r arweiniad hwn ac yn cyflwyno rôl y RhCG fel y fframwaith ar gyfer gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Gall PAEM, o dan Adran 41 Deddf Addysg 1997, ofyn i Swyddfa Archwilio Cymru gynorthwyo ag unrhyw arolygiad o dan Adran 38.