Arolygu elfennau addysg, arweiniad a hyfforddiant rhaglenni a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o raglenni a ariennir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ôl cytundeb wedi’i lofnodi â’r Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n cael ei adolygu’n flynyddol. Mae hwn yn cynnwys arolygu darparwyr unigol ac arolygon thematig fel y cytunir arnynt â’r Adran Gwaith a Phensiynau. Lle bo gan ddarparwyr raglenni sydd wedi’u hariannu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghymru a Lloegr, bydd Estyn ac Ofsted yn gweithio gyda’i gilydd, trwy gyfrwng memorandwm dealltwriaeth, i gyflawni’r arolygiad neu waith y cylch gwaith. Caiff yr adroddiadau eu cyhoeddi wedyn ar wefannau’r ddwy arolygiaeth.
Mae Estyn ac Ofsted hefyd yn gweithio ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau wrth gytuno ar fodelau arolygu ar gyfer rhaglenni newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wrth iddynt gael eu cyflwyno.