Ysgolion arbennig
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o ysgolion arbennig ac unedau cyfeirio disgyblion (UCDau) a gynhelir, dan Adran 28 Deddf Arolygu Ysgolion 2005. Mae'r Ddeddf yn mynnu bod y Prif Arolygydd yn cadw cofrestr o arolygwyr annibynnol (arolygwyr cofrestredig, tîm a lleyg) a ystyrir yn addas ganddo i gynnal yr arolygiadau hyn. Dan y Ddeddf, gall y prif Arolygydd gyfarwyddo Arolygwyr Addysg a Hyfforddiant Ei Mawrhydi (AEM) hefyd i arolygu ysgolion, lle bydd angen.
Caiff pob ysgol ei harolygu o leiaf unwaith bob chwe blynedd. Mae'r arolygiadau hyn yn delio â phob agwedd ar ddarpariaeth ysgol, ac eithrio addysg enwadol a chynnwys addoli ar y cyd yn yr ysgolion gwirfoddol hynny a nodir yn Adran 23 y Ddeddf. Swyddogaeth arolygiad dan Adran 28 y Ddeddf yw adrodd ar:
- y safonau addysgol a gyflawnir yn yr ysgol;
- ansawdd yr addysg a ddarperir gan yr ysgol;
- i ba raddau y mae addysg yn bodloni anghenion disgyblion yn yr ysgol
- ansawdd yr arweinyddiaeth yn yr ysgol a'r rheolaeth ohoni, gan gynnwys a yw'r adnoddau ariannol yn cael eu rheoli mewn ffordd effeithlon neu beidio; a
- datblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion yn yr ysgol; a
- chyfraniad yr ysgol i les disgyblion
Wrth gynnal yr arolygiadau hyn, mae'n ofynnol i arolygwyr cofrestredig gydymffurfio â Fframwaith Arolygu Cyffredin Estyn ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru a’r Arweiniad ar Arolygu Ysgolion Arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion.
Mae Arolygwyr Ysgolion EM yn monitro ansawdd arolygiadau Adran 28 ar ran y Prif Arolygydd.Cliciwch am:
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)![]()
Ffurflen Arfarnu Cyffredinol (FfAC)![]()
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad![]()
Un o ddau dempled a gynigwyd i gofnodi sylwebaethau cyn-arolygiad![]()
Adroddiadau arolygu ysgolion arbennig
Holiadur Profiad - Arolygwyr Annibynnol
Cyhoeddiadau perthnasol ar gyfer addysg arbennig