Gwasanaethau cynhaliaeth i ieuenctid
Mae Estyn yn cynnal arolygiadau o wasanaethau cymorth ieuenctid yn unol â gofynion Deddf Dysgu a Sgiliau 2000. Yn achos arolygu gwasanaethau cymorth ieuenctid, gall gweithgarwch arolygu:
- fod yn gyffredinol neu yn gysylltiedig â materion penodol;
- bod yn gysylltiedig ag unigolyn neu sefydliad penodol sy’n cynnig gwasanaethau neu yn gysylltiedig â dosbarth penodol o unigolyn neu sefydliad; neu
- bod yn gysylltiedig â maes penodol.
O 2008 ymlaen, y Cynllun Plant a Phobl Ifanc (CPPhI) fydd y cyfrwng ar gyfer cynllunio pob gwasanaeth ar gyfer plant a phobl ifanc mewn partneriaeth rhwng yr holl ddarparwyr gwasanaethau strategol allweddol. Yr awdurdod lleol fydd â’r cyfrifoldeb arwain ar gyfer datblygu’r Cynllun Plant a Phobl Ifanc.
Mae’r dyletswyddau ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth ieuenctid i bobl ifanc 11-25 oed wedi’u cyflwyno yn Neddf Dysgu a Sgiliau 2000, ac maent wedi’u hesbonio’n fanwl yn ‘Ymestyn Hawliau’(1) ac yn y cyfarwyddiadau a’r arweiniad cysylltiedig.